National Assembly for Wales / Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Health and Social Care Committee / Y Pwyllgor Iechyd a Gofal              Cymdeithasol

Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Bill/ Bil                        Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru)

Evidence from Older People’s Commissioner for Wales – RISC AI 08 / Tystiolaeth gan Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru – RISC AI 08

Text Box: Yr Athro Mark Drakeford AC
 Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
 Cynulliad Cenedlaethol Cymru 
 Bae Caerdydd
 CF99 1NA

28 Mai 2015

Annwyl Weinidog,

  

Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru)

Ar ôl imi gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig a thystiolaeth lafar yn ddiweddar i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, roeddwn i’n meddwl y byddai’n ddefnyddiol pe bawn yn crynhoi’r prif bwyntiau a godais mewn ysgrifen.   

 

Mae rheoleiddio ac arolygu gofal cymdeithasol yn creu effaith aruthrol ar fywydau pobl hŷn, yn enwedig y rhai sy’n fwy agored i niwed ac sydd yn aml yn ei chael yn anodd lleisio barn.  O gofio graddfa’r newid a’r effaith ar bobl hŷn fel rhai o ddefnyddwyr mwyaf gofal cymdeithasol, mae’n hollbwysig bod y Bil hwn yn sicrhau bod gwasanaethau’n darparu gofal, cymorth a llesiant i bobl hŷn sy’n eu cadw’n ddiogel ac sydd hefyd yn cynnal eu hawliau.  Er mai Bil ynglŷn â’r system yw hwn, yn y bôn mae’n Fil sy’n ymwneud â phobl hefyd. 

 

Mae llawer o fwriad yn y Bil arfaethedig yr wyf yn ei groesawu, ond mae nifer o gyfleoedd wedi’u colli ac mae angen rhoi sylw i’r rhain os yw’r Bil am gyflawni uchelgais y bwriad a’r newid sylfaenol a sbardunwyd gan chwaer-Ddeddf y Bil, sef Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. 

 

Er bod llawer o’r manylion sydd y tu cefn i’r Bil heb eu gweld eto, mae saith maes allweddol y mae angen rhoi rhagor o sylw iddyn nhw er mwyn i fwriad llawn y Bil gael ei gyflawni er lles pobl hŷn.

 

1.Mae comisiynu yn un peth o bwys sydd wedi’i hepgor o’r Bil arfaethedig.  Mae angen i’r Bil sbarduno newid systemig a newid diwylliannol cadarn er mwyn helpu i sicrhau bod y rhai sy’n gyfrifol am gomisiynu’n deall anghenion cymhleth pobl.  Rhaid gosod dyletswydd ar yr awdurdodau lleol a’r byrddau iechyd i gomisiynu yn unol â deilliannau llesiant, gan wella arferion comisiynu drwy sicrhau mwy o gysondeb mewn gofal a mwy o ganolbwyntio ar ansawdd bywyd ymysg y darparwyr.  Mae hyn wedi’i nodi’n glir yn fy Adolygiad o Gartrefi Gofal[1] yn Angen Gweithredu (6.1) a gyfeiriodd yn benodol at y ddeddfwriaeth ar Reoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol. 

 

2.Nid yw’r Bil fel y mae yn cyfateb i fwriad Llywodraeth Cymru na gweithredoedd Llywodraeth Cymru o ran integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol.  Unwaith eto, dyma rywbeth pwysig sydd wedi’i hepgor o’r Bil arfaethedig.  Er y gallai’r Papur Gwyrdd sydd yn yr arfaeth ymdrin ag integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, yn fy marn i mae yma gyfle sydd wedi’i golli o ran cydgrynhoi’r ddeddfwriaeth a’i gwneud yn haws i’r gyfraith gael ei rhoi ar waith.  Heb ymagwedd gwbl integredig at reoleiddio ac arolygu gofal cymdeithasol, bydd gwaith craffu annigonol yn parhau ynglŷn ag ansawdd bywyd a gofal iechyd pobl hŷn.

 

3.Mae’r diffiniad o ‘ofal’ yn y Bil yn canolbwyntio’n ormodol ar brosesau a thasgau, gan adlewyrchu ymagwedd at ofal sy’n canolbwyntio ar weithredoedd. Rwy’n gofidio nad yw’r diffiniad yn adlewyrchu ‘ansawdd bywyd’ na phwysigrwydd gwerthfawrogi preifatrwydd, urddas, dewis, hawliau, annibyniaeth a chyflawniad.  Rhaid cael dealltwriaeth glir a chyffredin o sut beth yw gofal da yn sbardun sylfaenol drwy’r ddeddfwriaeth hon i gyd.  Os yw’r diffiniad yn gywir, bydd yn caniatáu i wasanaethau ganolbwyntio ar ansawdd bywyd a phrofiad bywyd pobl hŷn yn hytrach nag ar dasgau, gan leihau’r amrywiadau annerbyniol presennol yn safonau gofal a chynyddu’r ffocws ar ansawdd bywyd pobl hŷn. 

 

4.Yn Angen Gweithredu (5.7) yn fy Adolygiad o Gartrefi Gofal, ceir cyfeiriad penodol at y Bil, gan alw am waith rheoleiddio cadarn ar weithlu cartrefi gofal.  Rhaid ymestyn proses cofrestru’r gweithlu gofal cymdeithasol i gynnwys gweithwyr gofal preswyl a gweithwyr gofal cartref er mwyn sicrhau bod gan bobl hŷn, y mae llawer ohonyn nhw mewn safle sy’n agored i niwed heb fawr o lais ac yn ei chael yn anodd sefyll dros eu hawliau, yr un lefel o ddiogelwch ac amddiffyniad ag unrhyw berson arall sy’n agored i niwed.  Drwy ei gysylltu â chod ymarfer gorfodol a hyfforddiant gorfodol, gall cofrestru’r gweithlu uwchraddio sgiliau a helpu i broffesiynoli’r sector.  Nid yw’r Bil arfaethedig yn ymestyn proses cofrestru’r gweithlu nac yn cynnwys hyfforddiant gorfodol i’r gweithlu sydd heb ei gofrestru.  Dyma faes sy’n peri pryder a gwir gyfle wedi’i golli gan na fydd yn mynd i’r afael â chwestiwn pobl hŷn sy’n cael gofal a chymorth gan staff gofal sydd heb y lefel briodol o sgiliau, gwerthoedd neu gymwyseddau.

 

5.Mae defnyddio aseswyr lleyg yn y broses arolygu yn hepgoriad arall yn y Bil arfaethedig a ymddangosodd yn y Papur Gwyn.  Cyfeirir at aseswyr lleyg yn aml fel ‘arbenigwyr drwy brofiad’ ac fe brofwyd[2] eu bod yn cynnig safbwynt gwahanol i’r rhai sy’n gweithio i reoleiddio ac arolygu gwasanaethau.  Maen nhw’n gallu bwrw goleuni ar ansawdd gofal ac ansawdd bywyd pobl ac, yn y bôn, ar ansawdd bywyd pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal.  Dylai cyrff rheoleiddio fod yn agored i gael eu herio a bydd aseswyr lleyg yn helpu’r rheoleiddiwr i weld pethau o safbwynt y person, gan beri bod y broses arolygu’n llawer mwy cadarn o’r herwydd.  Mae aseswyr lleyg yn cael eu defnyddio wrth arolygu gofal cymdeithasol ledled y Deyrnas Unedig ac, o gofio bod cynghorau cymuned wedi mynegi parodrwydd i gymryd rhan wrth arolygu cartrefi gofal, rhaid i’r Bil arfaethedig beidio â mygu’r uchelgais hwn sy’n bodoli ers tro byd.  Er bod y Memorandwm Esboniadol yn cyfeirio at gost ariannol fel rhwystr (er mai cost isel o £43,000 ar draws yr holl wasanaethau gofal cymdeithasol yw hon), mae cost peidio â mynd i’r afael â materion cyn iddyn nhw fynd yn arwyddocaol yn llawer uwch.  

 

6.Rwyf eisoes wedi dweud y dylai’r Bil hwn fod yn Fil ynglŷn â phobl.  Rhaid i’r ddeddfwriaeth hon gynnal hawliau pobl a dylai hyn fod yn un o sbardunau sylfaenol y Bil, gan lunio gwerthoedd y sector gofal cymdeithasol.  Rhaid i’r Bil drwyddo draw adlewyrchu ymagwedd sydd wedi’i seilio ar hawliau, gydag Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar wyneb y Bil er mwyn i bob corff cyhoeddus orfod rhoi sylw priodol i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Personau Hŷn wrth gyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf hon. Bydd methu ymgorffori ymagwedd sydd wedi’i seilio ar hawliau yng nghanol y ddeddfwriaeth hon yn creu deddfwriaeth sy’n syrthio’n brin o ddyheadau Deddf 2014 ac sy’n methu sbarduno’r gofal gwell, y cymorth gwell a’r deilliannau gwell y mae gan bobl hŷn hawl i’w cael.

 

7.Mae’r Bil arfaethedig yn methu atal y rhai sy’n anaddas i fod yn berchnogion gwasanaeth gofal cymdeithasol, megis cartref gofal, rhag gweithredu yma yng Nghymru.  Er bod y Bil yn gosod gofyniad ‘addasrwydd i ymarfer’ ar y gweithlu cofrestredig ac ar unigolion cofrestredig, nid yw’n gosod gofynion cyfatebol ar berchnogion gwasanaethau.  Yn fy marn i, dylai gofyniad ‘addasrwydd i fod yn berchennog’ gael ei gynnwys ar wyneb y Bil, gan ganiatáu i unigolion sydd wedi bod yn berchennog o’r blaen ar wasanaethau sydd wedi methu neu sy’n methu oherwydd gofal gwael neu ansefydlogrwydd ariannol gael eu hatal rhag dod i’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru. 

 

Mae yna lawer o fwriad yn y Bil hwn yr wyf yn ei groesawu, ond mae cryn dipyn o waith i’w wneud o hyd er mwyn sicrhau bod bwriad y Bil yn dod yn real a bod pobl hŷn yn teimlo ei fod yn real. Nid wyf yn credu ei fod eto yn mynd i’r afael yn llawn â’r holl faterion yr wyf wedi’u codi yn fy Adolygiad o Gartrefi Gofal a’r disgwyliadau sydd gan bobl hŷn.  Rwy’n croesawu’r cyfle i gydweithio â chi a’ch swyddogion, y byddaf yn cyfarfod â nhw yr wythnos nesaf, i sicrhau bod yr Anghenion Gweithredu perthnasol a geir yn fy Adolygiad o Gartrefi Gofal yn cael eu hadlewyrchu yn y Bil lle bo’n briodol, a bod potensial y Bil yn cael ei wireddu i’r eithaf. 

 

Yn gywir,

Sarah Rochira

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

C.C. David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

C.C. Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru

C.C. Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Plant a Theuluoedd



[1] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Lle i’w Alw’n Gartref, Adolygiad o Ansawdd Bywyd a Gofal Pobl Hŷn sy’n Byw mewn Cartrefi Gofal, 2014

[2] A Critical Reflection on the Involvement of 'Experts by Experience' in Inspections, British Journal of Social Work, Scourfield, P. (2009)